SL(6)421 – Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) a Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”). Mae’r diwygiadau’n addasu’r dyddiad perthnasol ar gyfer talu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2018 a Rheoliadau 2019.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2018 drwy ymestyn hyd eithriad presennol rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy mewn cysylltiad ag ardystio a gwasanaethau cyn-allforio ar lwythi ffytoiechydol mewn amgylchiadau penodol. Mae’r esemptiad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.
Mae Rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 2019 drwy ddarparu esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy mewn perthynas â cheisiadau i’r Comisiwn Coedwigaeth am dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio (neu ailallforio) mewn amgylchiadau penodol. Mae’r esemptiad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.
Gweithdrefn
Cadarnhaol drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau hyn oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3 (ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Gosodwyd y Rheoliadau hyn i ddechrau ar 7 Tachwedd 2023 a thrafododd y Pwyllgor y Rheoliadau ar 20 Tachwedd. Cafwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 20 Tachwedd.
Nododd adroddiad y Pwyllgor bedwar pwynt adrodd. Penderfynodd y Pwyllgor ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd (“y Gweinidog”) gan ei fod yn ystyried bod angen rhagor o wybodaeth ac eglurhad ynghylch dau o’r pwyntiau adrodd.
Roedd un o’r pwyntiau adrodd technegol yn gofyn i Lywodraeth Cymru sut y mae’n ystyried y byddai newid y dyddiad yn rheoliad 3(5D) yn adfer rheoliad 3(5C) o Reoliadau 2019 gan ei fod wedi peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2022.
Roedd ymateb y Llywodraeth a ddaeth i law ar 20 Tachwedd yn nodi’r hyn a ganlyn:
Nid yw rheoliad 3(5C) erioed wedi cael ei ddirymu, ond nid yw wedi cael unrhyw effaith gyfreithiol (hyd nes y Rheoliadau hyn) ers 1 Ionawr 2023. Mae rheoliad 3(5D) fel y’i diwygiwyd bellach ac sy’n sefyll ar wahân i reoliad 3(5C) yn adfywio rheoliad 3(5C) o Reoliadau 2019 drwy ddarparu ar gyfer parhad effaith rheoliad 3(5C) yn ystod y cyfnod yn ôl-weithredol.
Yn y llythyr at y Gweinidog, dywedwyd bod y Pwyllgor yn ystyried bod paragraff (5C) yn peidio â chael effaith (“ceases to have effect”) yn gyfystyr â dirymiad ar y dyddiad penodedig, hyd yn oed os na ddefnyddir y gair “dirymu” yn benodol. Roedd y llythyr yn gofyn am ragor o wybodaeth i egluro pam nad oedd Llywodraeth Cymru o’r farn bod angen ailddatgan yn benodol baragraff (5C) o reoliad 3 yn Rheoliadau 2019.
Gwnaeth y Gweinidog ymateb mewn llythyr dyddiedig 27 Tachwedd, gan nodi:
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor am ystyried y Rheoliadau hyn yn ofalus. Rwy'n cytuno ei bod yn bwysig bod y Rheoliadau yn glir, yn hygyrch, a bod modd eu rhoi ar waith. I'r perwyl hwn, rwyf wedi penderfynu tynnu'r Rheoliadau hyn yn ôl cyn y ddadl a drefnwyd ar eu cyfer ar 28 Tachwedd 2023.
Rwy'n bwriadu gosod Rheoliadau diwygiedig i gyflawni'r un bwriad polisi. Bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn dal i geisio estyn neu gymhwyso'r Cynllun Cymorth Symud ond byddant yn mynd i'r afael â'r pwyntiau penodol a godwyd gan y Pwyllgor.
Yn benodol, bydd y Rheoliadau newydd yn ei gwneud yn eglur nad yw rheoliadau 3(5C) na 3(5D) yn gweithredu mewn cyfraith mwyach, ac yn ailddatgan y darpariaethau yn adrannau newydd 3(5E) a 3(5F).
Mae'r Rheoliadau diwygiedig hyn yn ailddatgan y darpariaethau dan sylw fel paragraffau newydd (5E) a (5F) o reoliad 3 o Reoliadau 2019, fel y nodir yn llythyr y Gweinidog.
Roedd yr ail bwynt a godwyd gyda’r Gweinidog yn ymwneud â’r trydydd pwynt adrodd yn nodi ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng y Nodyn Esboniadol ac effaith y diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn. Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ei hymateb:
Mae eglurder a chysondeb yn y Nodiadau Esboniadol sy’n cydfynd â’r Rheoliadau yn ddymunol. Fodd bynnag, nid yw’r Nodiadau Esboniadol yn rhan o’r Rheoliadau ac mae’r Rheoliadau yn gywir.
Er y gwnaeth y Pwyllgor gydnabod nad yw nodiadau esboniadol yn rhan o reoliadau, gofynnodd am farn y Gweinidog ynghylch a allai nodyn esboniadol sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n anghyson â’r rheoliadau cyfatebol effeithio’n andwyol ar hygyrchedd y gyfraith.
Er na roddwyd sylw uniongyrchol i'r pwynt hwn, mae’r Nodyn Esboniadol i’r Rheoliadau diwygiedig wedi’i ddiwygio.
2. Rheol Sefydlog 21.3 (ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Gwnaeth yr esemptiad rhag talu ffioedd y darperir ar ei gyfer gan Reoliadau 2019 ddod i ben yn anghywir ar 31 Rhagfyr 2022 ac o’r herwydd peidiodd rheoliad 3(5C) â chael effaith. Mae’r Rheoliadau hyn yn mewnosod paragraff (5E) newydd yn rheoliad 3 sy’n ymestyn yr esemptiad rhag talu ffioedd. Mae’r paragraff (5F) newydd yn nodi bod paragraff (5E) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2025.
Yr effaith yw, rhwng 1 Ionawr 2023 a’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, sef 30 Rhagfyr 2023, ni fydd eithriad rhag talu ffioedd wedi bod mewn grym. Fodd bynnag, nododd y Gweinidog y canlynol yn ei llythyr dyddiedig 27 Tachwedd 2023:
O ganlyniad i'r diwygiad hwn, ni fydd y rheoliadau drafft newydd yn ceisio gwneud darpariaeth ôl-weithredol mewn perthynas â rheoliad 3(5C) o Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019. Mae hyn yn golygu na fydd esemptiad ôl-weithredol rhag ffioedd ar gyfer symudiadau penodol o bren, cynhyrchion pren, rhisgl wedi ei wahanu na pheiriannau coedwigaeth sydd wedi eu defnyddio. Yn hytrach, bydd yr esemptiad ffioedd perthnasol bellach ar waith rhwng 1 Ionawr 2024 a 30 Mehefin 2025. Yn anffodus, mae hyn yn golygu na fydd esemptiad ffioedd ar waith ar gyfer symudiadau penodol o ddeunyddiau penodol a reoleiddir ar gyfer 2023 am nad yw'r ddarpariaeth wedi ei hestyn yn flaenorol. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn flaenorol, ystyrir bod y risg y gallai hyn gael effaith andwyol ar fusnesau yn isel.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
7 Rhagfyr 2023